Enghraifft o'r canlynol | avatar, avatar, Hindu deity |
---|---|
Cyfres | Balabhadra |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Duw Hindwaidd yw Balarama (बलराम, Balarāma), sy'n frawd hŷn y duw Krishna ac a adnabyddir hefyd fel Baladeva, Baldau, Balabhadra a Halayudha. O fewn Vaishnaviaeth a thraddodiadau o Dde India, addolir Balarama fel un o avatars (rhithiadau) y duw Vishnu, a chyfeirir ato felly yn y Bhagavata Purana, un o destunau sanctaidd Hindŵaeth. Cydnabyddir gan mwyafrif yr Hindŵaid ei fod hefyd yn rhith ar Shesha, y sarff gosmig y mae Vishnu yn gorffwys arni.
I ddilynwyr Vishnu, Krishna yw'r Duwdod Goruchaf y mae popeth yn tarddu ohono. Balarama yw rhithiad (avatar) cyntaf y Duwdod hwnnw, ac ohono mae pob avatar arall yn dod i fodoli. Yn athroniaeth y sat-chit-ananda, mae Balarama yn cynrychioli sat (tragwyddoldeb) a chit (gwybodaeth, deall), ac felly'n cael ei addoli fel 'yr athro mawr' (Adiguru).
Mae'n gymeriad yn y Mahabharata, epig genedlaethol India.